Cymdeithas Cyfeillio Rhuthun Brieg  -   Ruthin Briec Twinning Society

Brieg 1992 - 1995

yn ol i fynegai blynyddoedd

1993

 

Ym mis Mai 1993 aethom yn ôl i Brieg, gyda rhai aelodau newydd, i gadarnhau’r cyfeillgarwch newydd yn ffurfiol drwy arwyddo’r Siarter Efeillio, ychydig wythnosau ar ôl y seremoni gyntaf yn Rhuthun.

 

Mae’r arysgrifen ar y deial haul yn darllen “Voici le Signe de l’Alliance pour les Générations à Venir”. Golyga hyn “Dyma arwydd o’n partneriaeth ar gyfer y cenedlaethau i ddod”. (Genesis 5.12)

 

Mwynhawyd y cylch arferol o dderbyniadau ym mhob un o’r pum cymuned, gyda digon o ddawnsio a chanu, ffurfiol ac anffurfiol.

 

Roed yr ymweliadau yn cynnwys diwrnod ardderchog yn hen borthladd Douarnenez oedd, gyda’i amgueddfa forwrol, yn llawn diddordeb, ac yna ymlaen i Kemper.

 

Digwyddodd ein hymweliad yr un pryd a ‘pardon’ (gwyl grefyddol) Brieg, felly bu ymweliad â’r eglwys, ac i adloniant gwych yn cynnwys tân gwyllt ar sgwâr y dref yn ddiweddarach.

 

Roedd un o’n hymweliadau i fferm bridio moch ac yn eironig iawn cawsom rostio mochyn yn Landudal. Nid yr un mochyn. Maer Edern, André Angot, a’r pen mochyn ! Alain - bwyd eto - Vernon - sychedig - eto - plus ça change.

 

Bu ymweliad dymunol iawn i’r amgueddfa forwrol yn Port Rhu, Douarnenez a dringodd rhai ohonom risiau tro goleudy Eckmuhle, gyda’r golygfeydd pell i’r môr. Y criw amheus arferol yn mwynhau’r set gefn

1995

 

Daeth tîm pêl-droed ieuenctid Rhuthun gyda’r 'parti swyddogol’ ar ymweliad 1995 a bu dwy gêm galed yn erbyn Brieg a Langolen. Bu’r hynafgwyr yn brwydro hefyd, yn Brieg, gan ennill 5-1 diolch i help rhai o’r to ifanc yn ein tîm.

 

Bu ymweliadau â Concarneau ac un o ffatrïoedd bisgedi enwog Brieg - yn arbenigo yn y ‘Galette’ Llydewig.

 

Wrth fwynhau’r croeso cynnes arferol cawsom noson grempogau lle bu’r Cymry yn arddangos eu sgiliau - gan fethu’n llwyr!

1992

 

Ym mis Hydref 1992 ymwelodd y grwp cyntaf o Ruthun â Brieg - wedi i’n Maer a Chlerc y Dref ymweld cynt ac agor y trafodaethau gefeillio. Dyma felly gyfle cyntaf trigolion Rhuthun i weld y math o le roeddem yn awyddus i efeillio ag o. Mae’n rhaid ein bod wedi penderfynu o fewn ychydig funudau - roedd y croeso yn anhygoel ac yr oedd yma ddau grwp o bobl oedd yn benderfynol o fod yn westywyr a gwesteion da, i fyw'r bywyd da, ac i chwerthin ar bob cyfle.

Teithiasom mewn ceir a chymryd y fferi o Plymouth i Roscoff - oedd i ddod yn brofiad cyfarwydd cyn bo hir. O fewn ychydig amser roeddem ar daith frysiog o’r pum pentref, gyda derbyniad cyfeillgar ym mhob un. Ar brydiau roedd yn anodd cofio ym mha bentref yr oeddem, gan inni gael ein cyflwyno nid yn unig i’r ystod arferol o aperitifs a gwinoedd, ond hefyd i ddiodydd arbennig Llydaw, Chouchen a Lambig. Ni chawsom rybudd ynglyn â’r rhain, felly cyn bo hir roeddem i gyd mewn rhyw niwlen ddymunol.

 

Roedd croeso’r teuluoedd yn wych, ac roedd brwdfrydedd amlwg dros efeillio gyda thref yng Nghymru. Mewn byr amser dysgodd bawb lawer am ddiwylliannau cyffelyb ac enwau llefydd megis Edern a Langolen a geir yn ein dwy ardal.

 

Ymhlith yr ymweliadau oedd wedi eu trefnu fe’n synnwyd gan yr ysgol feithrin/ babanod newydd oedd yn esiampl o sut mae gwir wleidyddiaeth leol yn gweithio’n effeithiol yn Ffrainc. Gan fod Brieg yn ganolfan i ‘boptai’ Llydewig aethom o gwmpas ffatri fisgedi Glazik yn ogystal â Chrempogfa fechan. Ar ôl gweld fferm laeth yn gweithio cafwyd ymweliad cyfareddol â gweithdai dodrefn Hervé Saliou ger Landrevarzec..

 

Fwyaf cofiadwy oedd y prydau llawen bryd y creodd ein hoffter o ganu a chwerthin gymaint cynhesrwydd rhwng y ddau grwp o bobl. Gwerthfawrogwyd personoliaeth heintus ac ymrwymiad Alain Kérouedan gan bawb. Ar y daith hon crëwyd cyfeillgarwch sydd yn dal yn gryf 14 mlynedd yn ddiweddarach

b6 b100 yn ol i dudalen gartref b1 b3 b7 b1 b7