Gwybodaeth cefndirol ar y ddwy gymuned, gyda chysylltiadau i safleoedd lleol eraill
Hanes gwreiddiau'r gefeillio
Crynodeb o'r ymweliadau
Ymweliadau wnaed gan grwpiau chwaraeon a chymunedol
Arwyddion gweladwy o'r gefeillio
Croeso i'r wefan sy'n dathlu gefeillio ein dwy dref - Brieg yn LLydaw a Rhuthun yng Nghymru.
Yma cewch lawer o wybodaeth ynglyn a'r ddwy dref, sut y cychwynnodd y gefeillio, a sut mae'r ymweliadau lu wedi mynd rhagddynt ym mhob cyfeiriad. A chan ein bod eisiau i fwy o bobl ymuno a mwynhau bendithion gefeillio, gallwch weld sut i gymryd rhan!
I'r rhai ohonoch sydd wedi mwynhau eisoes gwmni ein gwesteion neu westywyr, rydym yn wastad yn falch o dderbyn unrhyw ffotograffau neu nodiadau y gallem eu hychwanegu i'r safle.
Penblwydd mawr y Gefeillio
Eleni bydd Cymdeithas Efeillio Rhuthun yn dathlu 25 mlynedd ers cychwyn y gefeillio gyda Brieg yn Llydaw. Anodd credu bod cymaint o amser wedi treulio ers inni arwyddo’r siarter efeillio mewn pedair iaith yng Nghastell Rhuthun a Neuadd y Dref, Brieg. Ar y 10fed penblwydd newidiodd Brieg un o’u sgwariau yn Plasenn Rhuthun
(Sgwâr Rhuthun) ac fe blanwyd coed poplys du o Lysfasi ym Mrieg a phob pentref. Ar y 15fed penblwydd enwyd Cylchfan Briec. Dros y blynyddoedd cyfnewidwyd anrhegion eraill agellir gweld rhai ohonynt yn Llyfrgell Rhuthun lle y cynhelir arddangosfa ym mis Mehefin.
Yn dilyn arwyddo’r siarter efeillio ffurfiwyd Cymdeithas Efeillio Rhuthun a’r Cylch gyda phwyllgor gweithredol a Maer Rhuthun yn Llywydd. Mae ardal y Gymdeithas Efeillio yn cynnwys cymunedau Rhuthun, Efenechtyd, Llanfair a Llanynys. Mae ardal Cymdeithas Efeillio Brieg yn cynnwys cymunedau Brieg, Edern, Landrevarzec, Landudal a Langolen (sylwch ar yr enwau cyfarwydd!)
Ers 1993 mae’r pwyllgor gweithredol wedi cyfarfod yn rheolaidd i drefnu ymweliadau i ac o Brieg, gyda digwyddiadau codi arian yn cael eu trefnu i gyfarfod a’r gost o dderbyn ein ffrindiau o Lydaw bob dwy flynedd. Yn y blynyddoedd rhyngddynt rydym wedi derbyn croeso arbennig gan ein ffrindiau yn Brieg. Hanfod gefeillio yw bod pobl yn aros gyda phobl yn eu cartrefi, ac nid mewn gwestai. Datblygodd llawer o gyfeillgarwch personol dros y blynyddoedd.
Cymdeithas Efeillio Rhuthun drefnodd yr Wyl Rhuthun gyntaf yn 1994 ac ers hynny cymerodd Pwyllgor yr Wyl drosodd a threfnu gwyl flynyddol ers 1996.
Yn ogystal ac ymweliadau trigolion Rhuthun a’r cylch bob dwy flynedd mae llawer o fudiadau wedi gwneud y siwrne o Ruthun i Brieg ac o Brieg i Ruthun. Ymwelodd Cor Rhuthun a Brieg ddwywaith gan chwarae i neuaddau llawn yn Neuadd Gyngerdd Artemuse yn Brieg; Eglwys Sant Pedr, Brieg; Eglwys Gadeiriol Kemper ac Eglwys Pleyben. Mae’r mudiadau eraill sydd wedi ymweld a Brieg yn cynnwys ffermwyr, Ruthin Majorettes a Thim Peldroed Iau Rhuthun. Yn eu tro mae Bagad Brieg a Dawnswyr Gwen ha Du Landrevarzec wedi cymeryd rhan mewn sawl Gwyl Rhuthun.
Mae Cymdeithas Efeillio Rhuthun yn agored i bawb. Ar wahan i gyfraniad blynyddol gan Gyngor Tref Rhuthun mae’n codi arian i groesawu ein ffrindiau o Brieg drwy daliadau aelodaeth, Clwb 100, boreau coffi, nosweithiau caws a gwin, swperau safari, cwisiau ac ati. Pan fyddwn yn ymweld a Brieg bob dwy flynedd mae pawb yn talu eu costau teithio ond wedi cyrraedd derbyniwn lety, bwyd a rhaglen o ddigwyddiadau.
I ddathlu’r penblwydd arbennig hwn bydd parti o 40 gan gynnwys 20 o’r grwp offerynol Bagad Brieg yn dod trosodd o Brieg ar 29 Mehefin gan aros yma yn Rhuthun am dair noson a dychwelyd ar yr 2 Gorffennaf. Ar y Dydd Sadwrn bydd y Bagad yn gorymdeithio o Neuadd y Dref i Sgwar Sant Pedr lle byddant yn chwarae yn Top Dre Gwyl Rhuthun. Golyga hyn y byddwn yn chwilio am tua 25 o deuluoedd i gynnig gwely a brecwast, un cinio ac un pryd min nos iddynt. Darperir y prydau eraill gan y Gymdeithas.
Mae grwp Rhuthun yn cyfarfod ar yr ail nos Iau ymhob mis fel arfer (ar wahan i fis Awst) yn Tabernacl, 7.30 p.m.
Croeso i aelodau newydd
Ymaelodi cysylltwch gyda Menna Jones, Swyddog Aelodaeth,
7 Tanycastell, Rhuthun (Tel: 01824 704350 e-bost morfuddmenna@boyns.net
Siarad Ffrangeg? Dysgu Ffrangeg?
Nid oes angen Ffraneg rhugl.
Nid oes angen Ffraneg o gwbl!!!
Mae'r rhain yn ddigwyddiadau cymdeithasol gwych, felly rhowch gynnig arno!!!!!
Alors, allez - y!
Gwybodaeth bellach: 01824 704558
Ysgrifennydd: gruffhughes@gmail.com
Da Iawn Vernon!
Dinesydd Da Rhuthun
2017: Mae Vernon Hughes wedi ymddeol ar ôl 23 o flynyddoedd fel Ysgryfennydd ac Brian Roberts wedi ymddeol ar ôl 18 mlynedd fel Trysorydd.
Diolch yn fawr am eich gwasaneath.
Double click to insert body text here ...
Rhaglen 2018
Dydd Gwener 29 Mehefin
5.30yb Llydawyr i gyrraedd Llanfwrog. Y Maer i groesawy'r Llydawyr. Lletywyr i ddod i'w nhol
12.30 Cawl a bara yn Wetherspoons.
2.00yh Teithiau Hanesyddol, arweinwyr Roger Edwards a Vernon Hughes.
3.00yh Lletywyr i nol y Llydawyr ar y sgwar. Arddangosfa yn y Llyfrgell.
7.00yh. Clwb Rygbi Rhuthun. Geraint Woolford ag Eleri Woolford i ddiddanu.
Dydd Sadwrn 30ain
9.00yb Bagad i ddod a'u dillad ac offerynnau i Awelon.
10.00yb Ymweld a Patchwork.
11.30yb Bwffe yn Awelon.
1.30yh Bagad i orymdeithio a pherfformio ar y sgwar tan 2.00yh.
3.30yh LLwyfan y Cloc Bagad yn perfformio am 4.00yh
8.30yh Caffi R. Dafydd Iwan a'r band
Dydd Sul Gorffennaf 1af
10.00yb Ymweliad a Ffynnon Gwenffrewi ac Abaty Basingwerk,
1.30yh Cinio efo'r Lletywyr.
5.30yh Rhostio Mochyn yng Nghastell Rhuthun.
6.00yh Band Ieuenctid Sir Ddinbych yn perfformio
Dydd Llun Gorffennaf 2ail.
1.00yh Ffarwelio a'r Llydawyr.