2014
Eleni tro Rhuthun ydoedd i groesawu ein ffrindiau o Brieg a chyrhaeddodd parti o 26, gan gynnwys teulu o dri, brynhawn dydd Mawrth, 27 Mai am ymweliad 4-noson. Croesawydd ein gwesteion gan Faer Rhuthun, Cyng Stephen Beach, a Chadeirydd y Gymdeithas Efeillio, Emrys Wynne. Yna fe’i cyflwynwyd i’w gwestywyr yng Nghaffi R lle y cawsant ginio fin nos gyda’u gwestywyr ac aelodau o’r Pwyllgor Gefeillio.
Roedd y Pwyllgor wedi trefnu rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer ein ffrindiau ac ar y dydd Mercher bu ymweliad ag Eglwys San Silyn, Wrecsam, y Ganolfan Grefftau yn Mwynglawdd a’r Bers.
Dydd Iau ymwelwyd a nifer o leoliadau yn Nyffryn Clwyd; Eglwys Llanrhaeadr a’r Crochendy, y Ganolfan Iaith ac Amgueddfa Radio yn Ninbych a dilynwyd hyn gyda thaith gerdded o amgylch Dinbych a’r castell.
Penllanw’r ymweliad mae’n debyg oedd ymweliad y parti a’r Mynydd Gwefru a Pharc Gwledig Padarn yn Llanberis. Y noson honno yn dilyn cyfarfod o’r ddau Bwyllgor Gefeillio yng Nghanolfan Awelon cafodd y parti bryd a chyngerdd gan Gôr Rhuthun. Wrth gwrs fe ddilynwyd hyn gan ganu cynulleidfaol ddaeth i ben trwy gyd-ganu ein anthemau cenedlaethol!
Treuliwyd fore Sadwrn yn Rhuthun gyda’n gwesteion yn gwario rhai o’u punnoedd a cheiniogau (dim euro yma!) ac wedyn cawsant ginio ffarwel yng Nghanolfan Cae Cymro, Clawddnewydd. Unwaith eto canwyd ein anthemau cenedlaethol cyn i’n ffrindiau adael i ddal eu llong yn Plymouth.
Unwaith eto ymweliad llwyddiannus iawn.
YMWELIAD PARTI O BRIEG 2014
Dydd Mawrth 27 Mai
18.00 Parti o Brieg yn cyrraedd Canolfan Grefft Rhuthun. Croeso gan Gadeirydd y
Gymdeithas Efeillio (Cyng Emrys Wynne) a Maer Rhuthun (Cyng Steve Beach)
19.30 Pryd croeso yn Cafe R, Rhuthun
Dydd Mercher 28 Mai
10.00 Gadael o’r Ganolfan Grefft am Byllau Plwm Y Mwynglawdd
12.00 Cinio yn Eglwys San Silyn, Wrecsam ac ymweliad a’r eglwys
14.30 Gwaith Haearn y Bers
Dydd Iau 29 Mai
10.00 Gadael am Grochendy ac Eglwys Llanrhaeadr,
Canolfan Iaith ac Amgueddfa Radio Dinbych
12.00 Cinio picnic
13.00 Taith gerdded o gwmpas Dinbych a Chastell Dinbych
16.00 Dychwelyd i Ruthun
19.30 Pryd min nos ym Melin Brwcws
Dydd Gwener 30 Mai
09.30 Ymweliad a’r Mynydd Gwefru, Llanberis
13.00 Cinio ytng Ngwesty’r Victoria, Llanberis
14.30 Ymweliad a’r Amgueddfa Lechi, Llanberis
18.00 Cyfarfod o’r ddau bwyllgor gefeillio yng Nghanolfan Awelon, Rhuthun
19.00 Noson gyda Chôr Rhuthun yng Nghanolfan Awelon, Rhuthun (Cinio, gwin a chanu)
Dydd Sadwrn 31 Mai
12.00 Cinio Ffarwel yng Nghanolfan Cae Cymro, Clawddnewydd
14.00 Parti Brieg yn gadael