Rhuthun 1992 - 1994
Rhuthun 1992
Ymweliad swyddogol 1af y Llydawyr a Rhuthun
Ym mis Mai 1992 ymwelodd y grwp cyntaf o Brieg â Rhuthun - a gobeithiwn fod cynhesrwydd ein croeso cystal ag un ein cyfeillion Llydewig newydd. Mae’n rhaid iddo fod - gan inni gael ein gwahodd yn ôl i Brieg yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ymweliad byr oedd hwn a threuliwyd y rhan fwyaf o’r amser yn fforio Rhuthun a mwynhau amser gyda’r gwestywyr. Y prif ddigwyddiad cymdeithasol oedd cinio yn y Clwb Rygbi pan groesawyd yr ymwelwyr gan y Maer, Cyng Robin Llwyd ab Owain. Gwnaed hyn yn hytrach na chynnal Dawns y Maer y flwyddyn honno a chafwyd perfformiad o ganeuon Cymraeg gan Gôr Rhuthun..
Dyma ychydig luniau o’r noson yn y Clwb Rygbi. Robin Llwyd ab Owain (y Maer) a Vernon Hughes (Clerc y Dref ac ysgrifennydd pwyllgor Rhuthun) yn croesawu’r ymwelwyr, gyda chefnogaeth ieithyddol Stan Morton. Y ddau Gadeirydd - Alain Kéroedan a Murray Bragg yn cyfnewid arwyddion o gyfeillgarwch.
Rhuthun 1993
2ail ymweliad swyddogol a Rhuthun
Arwyddwyd y siarter yng Nghastell Rhuthun.
Hwn oedd ymweliad ‘swyddogol’ cyntaf pobl Brieg/Pays Gazik â Rhuthun. Canolbwynt yr ymweliad oedd y wledd ganoloesol yng Nghastell Rhuthun pryd yr arwyddwyd y Siarteri Gefeillio a chyfnewid sawl anrheg.
Yn dilyn pryd croeso yn Yr Hen Angor, diddanwyd ein gwesteion gan y Dawnswyr mossis yn y Ganolfan Creffat, ymwelwyd â Chapel Pendref, y capel hynaf yn Rhuthun, a marchnad anifeiliaid Glasdir. Dilynwyd hyn gydag ymweliad â Stryd Fawr – fferm sydd, yn anghyffredin, yn magu ceirw.
Roedd cyfle i fwynhau mwy o awyr iach ym Mrenig, gyda’r cyfle i edrych ar fecanyddwaith cyflenwi dwr a’r ecoleg lleol. Roedd amser wrth gwrs i ymlacio gyda’r teuluoedd oedd yn lletya a chyfle i wneud ffrindiau – llawer ohonynt bellach yn sefydlog.
Yn ystod y wledd ganolaosol yn y castell coronwyd Alain Kerouedan fel y barwn!
Rhuthun 1994
3ydd ymweliad swyddogol y Llydawyr a Rhuthun
Roedd ymweliad pobl Brieg yn 1994 yn nodedig - er nas gwyddem ar y pryd - gan mai dyma gychwyn Gwyl Rhuthun - swae gerddorol flynyddol y dref. Gweler: www.ruthinfestival.co.uk . Fe’n tretiwyd i ymweliad dau grwp ardderchog Pays Glazik - Bagad Brieg, un o’r bandiau traddodiadol Llydewig gorau, a Gwen ha Du, y grwp dawnsio gwerin o Landrevarzec.
Caewyd Sgwâr Sant Pedr i draffig am y diwrnod a chyflwynwyd pobl Rhuthun i’r gefeillio gyda swae gerddorol. Ymunodd llawer ohonynt yn y dawnsfeydd Llydewig.
Roedd yr achlysur i ddathlu diwylliant Cymraeg hefyd gydag, ymhlith eraill, Côr Rhuthun a dawnswyr gwerin ifanc o’r Wyddgrug.
Roedd y cwlwm Celtaidd yn amlwg iawn a chyfwelwyd Alain Kérouedan ar y thema hon gan Radio Wales.
Roedd y River City Jazzmen a Ruthin Majorettes ymhlith perfformwyr eraill ac wrth gwrs bu nosweithiau cymdeithasol eraill gan gynnwys noson barti gwych yng Nghlwb Rygbi Rhuthun