Cymdeithas Cyfeillio Rhuthun Brieg  -   Ruthin Briec Twinning Society

Rhuthun 1998 - 2004

 

 

1998    

 

Ein hail wledd ganol oesol yng Nghastell Rhuthun - Pierre a Marie-Claire Guezennec goronwyd yn Farwn a Barwnes.

 

1999

 

Fel ein cyfraniad tuag at Wyl Rhuthun 1999 trefnwyd i Bagad Brieg gymryd rhan ac fel arfer, mawr fu eu gwerthfawrogiad gan y llu oedd wedi ymgynnull ar y sgwâr. Ar ôl eu croesawu gyda phryd yn y Clwb Rygbi ar y nos lau buom yn eu difyrru ddydd Gwener. Bu Coleg Llysfasi yn garedig iawn yn eu derbyn a rhoi cinio iddynt ac wedyn aethant ar Reilffordd Llangollen ar ôl perfformio yn yr orsaf. Yna, min nos aeth rhai ohonynt i'r cyngerdd yng Nghapel y Tabernacl. Yn dilyn yr Wyl cawsant swper yng Ngwesty'r Castell a gadawsant am adref yn hwyr iawn. Unwaith eto diolch o galon i bawb ddaru helpu i wneud ymweliad y Bagad mor llwyddiannus, yn enwedig y rhai ohonoch roddodd lety iddynt. Gan ei fod yn amser gwyliau roedd cael cartrefi iddynt i gyd yn gryn broblem ac aeth llawer ohonoch i gryn drwbl. Diolch eto!

 

 

2000

 

Diwedd mis Mai daeth bron i hanner cant o ymwelwyr o Brieg i aros yn Rhuthun. Fel arfer, byr oedd eu harhosiad yn anffodus, o brynhawn Gwener i brynhawn Sul and gwnaed llawer yn ystod yr amser hwn. Ar y prynhawn cyntaf aeth yr ymwelwyr nad oeddynt yn gyfarwydd â Rhuthun ar daith dywysedig o gwmpas y dref tra’r ymwelodd y gweddill â Llysfasi. Yna cawsant bryd gyda’u gwestywyr a threulio’r min nos gyda hwy. Er eu bod wedi treulio’r noson cynt ar y môr roedd gan rai ohonynt yr egni i ymweld â thafarn leol - allwch chi ddim cadw Llydäwr da i lawr. Treuliwyd y diwrnod nesaf yn Eryri. Gwnaeth y daith o amgylch cynllun trydan dwr Dinorwig o fewn y ‘Mynydd Gwefru’ gryn argraff ar ein hymwelwyr. Doedd y cinio yn Llanberis yn fawr o hysbyseb i’r coginio lleol ond wrth lwc roedd yr haul yn tywynnu ar y ffordd adref a gwnaeth y golygfeydd godidog o’r mynyddoedd a’r môr glas (ie, glas!) fyny am fwydlen oedd yn llai na gastronomique. Wedi prin amser i ymolchi a newid yn ôl a ni i Neuadd y Dref am Noson Lydewig. Roedd y drws ar agor i bobl y dref ddod i fwynhau seidr a chrempog a baratowyd gan ein gwesteion ar y biligs roeddynt wedi dod gyda hwy'r holl ffordd o Brieg. Daeth cannoedd i brofi’r bwyd ac arhosodd nifer fawr i ymuno yn y dawnsio. Cafwyd dawnsio Llydewig dan arweiniad Sklerigen Glas a Chymreig dan arweiniad medrus Ann Lloyd. Heb os nac oni bai fe gofir y noson am flynyddoedd i ddod fel ‘noson y mil crempog’! Roedd bore Sul yn rhydd i bawb ymlacio, ar wahân i aelodau’r ddau bwyllgor, fu mewn cydgyfarfod i gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yna cafodd ein hymwelwyr a nifer o’r gwestywyr ginio ffarwel yng Nghastell Rhuthun cyn iddynt adael am adref. Y teimlad cyffredinol oedd i’r ymweliad fod yn llwyddiant mawr fwynhawyd gan bawb.

 

 

 

2002

 

Ym mis Medi tro parti o Brieg ydoedd i ymweld â ni. Dim problem cael digon iddynt ei wneud gan eu bod eisiau cerdded, a cherdded wnaethant yn sicr. Profasom hwy ar Foel Famau - dim problem! Cwta oedi i gymryd gwynt ac ymlaen i Gilcain am ginio a Loggerheads am de. Ar y diwrnodau canlynol fe'u gwahanwyd yn ddau grŵp er mwyn cael teithiau cerdded ar wahanol lefelau; er enghraifft tra bo rhai yn rhuthro fyny a kwr Yr Wyddfa, aeth y lleill ar daith mwy hamddenol o gwmpas Beddgelert. Eleni derbyniwyd cyfraniad caredig iawn gan Gyngor Tref Rhuthun tuag at goffrau'r Gymdeithas a defnyddiwyd hyn i fwydo'n hymwelwyr egniol. Cytunodd pawb bod tai bwyta Rhuthun wedi creu cryn argraff arnynt. Cafwyd derbyniad dinesig gan y Maer ac ar un o'r 'dyddiau gorfíwys' cafwyd taith o gwmpas yr Hen Garchar a cinio bwffe trwy garedigrwydd y Cyngor Sir. Ac ar ben hyn oll roeddem yng nghanol haf bach Mihangel. Ydych chi'n dal i'w gofio?

 

Fel ac yn y gorffennol croesodd rhai pobl ifanc y Sianel ar gyfer cyfnodau byr o brofiad gwaith - tri o Brieg ac un o Ruthun. Hefyd bu ffrindiau drwy'r post o flwyddyn pump yn ysgolion cynradd Rhuthun yn cyfathrebu â'i gilydd. Croesewir hyn yn fawr iawn a gobeithiwn y bydd yn arwain at gysylltiadau rhwng teuluoedd cyfan gan eangu ein perthynas gefeillio.

 

 

Ar gyfer y cerddwyr o Brieg, y penllanw oedd dringo’r Wyddfa ar hyd Llwybr Penygwryd, dod lawr Bwlch Main a rhan isaf Llwybr Watkin i Nant Gwynant

 

 

2004

 

Eleni tro Brieg ydoedd i ymweld â ni a chyrhaeddodd parti o 45 o bobl Brieg, gan gynnwys y Maer a 25 oedd yn ymweld am y tro cyntaf Ganolfan Awelon fin nos Fercher, 19 Mai. Fe'u croesawyd gan Gruff Hughes, Cadeirydd Cymdeithas Efeillio Rhuthun a chawsant luniaeth ysgafn cyn cyfarfod â'u gwestywyr am y pedair noson nesaf. Roedd y Pwyllgor yn falch iawn bod gennym saith o westywyr newydd eleni.

 

Dydd Iau ymwelodd y parti â Ewe-phoria yn Llangwm lle y cawsant gyflwyniad ar fridiau defaid, arddangosfa o gneifio defaid a gwelsant gi defaid wrth ei waith yn casglu a didoli defaid. Dilynwyd hyn gan ginio ardderchog - o gig oen Cymreig wrth gwrs! Ar ôl cinio ymwelodd y parti â chronfa Brenig lle cawsant y dewis o edrych o gwmpas yr arddangosfa neu gerdded dros yr argae ac i ben y llyn i gyfarfod â'r bws. Dewisodd nifer fawr yr ail opsiwn. Ar ôl dychwelyd i Rhuthun cynhaliodd aelodau o Bwyllgorau Rhuthun a Brieg gyfarfod byr i drafod amrywiol agweddau o'r gefeillio. Paratowyd pryd min nos gan y gwestywyr.

 

Dydd Gwener gadawodd y parti am Gastell y Waun i ymweld â'r castell a'r gerddi lle cawsom bicnic cyn gadael am Froncysyllte. Unwaith eto rhoddwyd dewis i'r parti un ai i aros ar y bws, cerdded dros y draphont ac yna dychwelyd i Langollen ar y bws neu groesi'r draphont a cherdded i Langollen ar hyd llwybr y gamlas. Y tro hwn nifer llai ddewisodd cerdded!. Nos Wener rhoddwyd cinio i'r parti gan y pwyllgor yng Ngwesty'r Angor.

 

Fore Sadwrn rhoddwyd taith tywysedig o gwmpas y dref i'r ymwelwyr tro cyntaf cyn iddynt dreulio'r prynhawn gyda'u gwestywyr. Nos Sadwrn croesawyd y parti i bryd o fwyd ac adloniant gan Gôr Rhuthun yng Nghlawddnewydd. Hwn oedd cyfle'r côr i ddiolch i bobl Brieg am y croeso twymgalon roddwyd iddynt y llynedd a chafwyd noson ffantastig.

 

Yn dilyn ailenwi sgwâr yn Brieg y llynedd trefnodd Pwyllgor Rhuthun gyda'r Cyngor Tref a'r Cyngor Sir i'r gylchfan ger y Ganolfan Crefftau gael ei henwi'n swyddogol yn Cylchfan Briec gan Faeri Rhuthun a Brieg. Dilynwyd hyn gyda Derbyniad Dinesig gan Faer Rhuthun a chinio yng Nghastell Rhuthun gan y pwyllgor. Ar ôl cinio gadawodd y parti o Gastell Rhuthun ar ôl beth oedd, ym marn pawb, yn un o'r ymweliadiau gorau eto gan barti o Brieg i Ruthun.

 

Ar y siwrnai yn ôl dros y Sianel cyfarfu'r parti â gwahanol gymdeithasau gefeillio o Lydaw oedd wedi bod yn ymweld â'u partneriaid Cymreig - Plogonnec (Llandysul), Plonéur-Lanvern (Llandybïe), Plouvien (Tregaron) a Plougastel (??) - a threulio orig ddifyr gyda hwy yn y bar!

yn ôl i dudalen gartref yn ôl i fynegai blynyddoedd r4 r3 7 5 r9 r1