Ar ol ystyried nifer o drefi a'u gwrthod am whanol resymau ymwelodd Cadeirydd Is-Bwyllgor Gefeillio'r Cyngor Tref a Chlerc y Dref a'u gwragedd, tra ar wyliau yn Llydaw yn 1990, a dwy efeilldref posibl, gyda Brieg yr ail. Cawsant groeso cynnes iawn ac yn dilyn eu hadroddiad penderfynnodd y Cyngor Tref ddilyn y posibilrwydd o efeillio gyda Brieg. Ym mis Gorffennaf 1991 ymwelodd Maer a Maeres Rhuthun (Cyng Robin Llwyd ab Owain a Mrs Eirian Owain) a Brieg gan dderbyn croeso swyddogol oddi wrth Gyngor Tref Brieg a llety croesawgar gan un o'r Dirprwy Feiri.
Ym mis Mai 1992 ymwelodd y ddirprwyaeth gyntaf o Brieg a Rhuthun ac wedi iddynt adrodd yn ol penderfynnodd eu Pwyllgor symud ymlaen gyda'r gefeillio.
Y Siarter. Arwyddwyd y Siarter Efeillio gan Faer Tref Rhuthun a Chadeiryddion Cynghorau Cymuned Efenechtyd, Llanfair Dyffryn Clwyd a Llanynys a Meiri Brieg, Edern, Landrevarzec, Landudal a
Langolen mewn Gwledd Ganoloesol yng Nghastell Rhuthun ar yr 2ail o Fai 1993 ac yn Neuadd y Dref Brieg ar y 30ain o Fai 1993. Ac felly y ganwyd y gefeillio yn swyddogol. Yn y ffotograff (de isod) mae Maer Rhuthun ar y pryd, Cyng Emrys Wynne, yn dal y siarter, gyda meiri y pum cymuned - o'r hyn a alwyd ar y pryd yn Canton de Brieg. Cadeiryddion y ddau bwyllgor gefeillio, Alain Keroedan a Murray Bragg sy'n dal faner.
Ailadroddwyd y seremoni yn Brieg ac mae'r ffotograff yn dangos yr un cynrychiolwyr cymunedol ar risiau'r Mairie (Neuadd y Dref).
Daeth y gefeillio gyda Brieg o benderfyniad Cyngor Tref Rhuthun yn 1989 y dylai'r dref gael gefaill.
Gwnaed ceisiadau i ddau fudiad yn Llundain a Paris am enwau trefi addas.
Y meini prawf oedd: tref o tua'r un boblogaeth a Rhuthun oedd yn ganolfan weinyddol ac addysgol i ardal wledig, amaethyddol.
O ddewis, Llydaw oedd y lleoliad a thref lle y siaradwyd peth Llydaweg.
Annibyniaeth. Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Dref ar y 7fed Rhagfyr 1993 penderfynwyd torri'n rhydd o Gyngor y Dref a sefydlu Cymdeithas Efeillio Rhuthun a'r Cylch annibynnol. Ffurfiwyd Pwyllgor Llywio gyda Murray Bragg yn Gadeirydd, Tony Lyne yn Is-Gadeirydd, Vernon Hughes yn Ysgrifennydd a Gwyn Dodd yn Drysorydd. Etholwyd pwyllgor gweithredol ac mae'n ddiddorol i sylwi bod 8 o'r aelodau gwreiddiol yn dal i wasanaethu ar y pwyllgor.
Ymweliadau Cynnar. Yn ystod 1994, blwyddyn gyntaf y gefeillio, cymerodd 3 rhedwr o ardal Rhuthun, yng nghwmni Maer y Dref (Cyng Ann Booth) ran yn Hanner Marathon Brieg, ac ymwelodd 35 aelod o Gangen Rhuthun Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, 44 aelod o'r Dyffryn Majestic Majorettes a 40 aelod o Gôr Rhuthun a Brieg, cyfanswm o 123 people, a daeth 72 o bobl (yn cynnwys Bagad Briec a dawnswyr Gwen ha Du) i Wyl Gefeillio Rhuthun ym mis Awst.
Dyma darddiad Gwyl Rhuthun, sydd wedi tyfu i fod yn un o ddigwyddiadau mwya'r ardal!
Bron i 200 o bobl yn ystod y flwyddyn gyntaf ar wahan i'r 50 o fyfyrwyr gyfnewidiasant yn ystod 1994. Hyd yma mae dros 700 o bobl wedi ymweld a Brieg mewn grwpiau neu fel myfyrwyr cyfnewid gyda nifer cyffelyb yn ymweld a Rhuthun.
Yn ystod yr ymweliad fforiol cyntaf a Brieg, daeth Rhuthun i adnabod Marie-Alice a'i Bilik. Roedd hefyd yn gychwyn y traddodiad o haelioni gan y Briecoise wrth fwydo a 'dyfrhau' eu gwesteion - boed dan do neu'r tu allan!